Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i arteffactau ac olion traed cynhanesyddol enwog ar ei arfordir, felly dewch draw i Archifau Morgannwg i ddilyn olion traed ein cyndeidiau Mesolithig o Oes y Cerrig yn ystod gwyliau'r haf! Gallwch baentio, castio traciau anifeiliaid presennol a’r rhai sydd wedi diflannu, a beth am greu eich olion mwdlyd eich hun! Byddwn yn defnyddio paent, clai ac ati felly gwisgwch eich hen ddillad. Bydd hefyd gyfle i weld 'Tu Ôl Llenni' y sefydliad cofnodion pwysig hwn.
Pris: Am ddim
Cysylltu ag archebu:
Gavin Jones
Gavin.Jones@rspb.org.uk