Crëwyd Gwastadeddau Gwent gan bobl a'u rheoli am filoedd o flynyddoedd, ac o ganlyniad mae gennym dreftadaeth naturiol unigryw. Felly dewch i ddathlu ein Gwastadeddau Gwent anhygoel ar Ddiwrnod Mawr Hwyl yr Haf yng Nghors Magwyr. Gallwch fwynhau trochi mewn pwll, hela trychfilod, peintio wynebau, teithiau tywys, crefftau am ddim, stondinau bywyd gwyllt a threftadaeth a llawer mwy. Diwrnod allan gwych i’r teulu!
Pris: £2 i oedolion, £ 1 i blant, £5 i deuluoedd.
Cysylltu ag archebu:
Kathy Barclay
magormarsh@gwentwildlife.org