Diwrnod hwyliog a rhyngweithiol gyda'r awdur llwyddiannus Lucy Christopher, a fydd yn ein cynorthwyo i ddarganfod sut gall ysgrifennu mewn man gwyllt a defnyddio lleoliadau fod yn bwysig ac yn ysbrydoledig ar gyfer ffuglen. Gan ddefnyddio ymarferion ysgrifennu ac archwilio, bydd Lucy yn ein tywys trwy ei dulliau ymchwil a datblygiad ar gyfer ei nofelau. Does dim angen paratoi o flaen llaw ond byddwch yn barod i archwilio, datblygu a mwynhau yn y lleoliad ysbrydoledig ac arbennig yma ar Lefelau Gwent!
Pris: £60 / aelod RSPB £48
Cysylltu ag archebu:
newport-wetlands@rspb.org.uk
01633 636363