Yn ystod y ddau Ddydd Sul nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar ein synhwyrau wrth i ni archwilio’r rhan yma o dirlun y Lefelau yng Ngwlyptiroedd Casnewydd. Byddwn yn dechrau gyda'n clyw ac yn ymuno â'r arbenigwr Chris Dale ar daith sgwrsio a cherdded, gan ddarganfod sut mae Chris yn cofnodi ac yn adnabod seiniau natur. Bydd hefyd yn dangos ei offer recordio a sut y gallwn ni hyd yn oed ddefnyddio ein ffonau symudol i recordio caneuon a galwadau adar!
Pris: £5.50 / aelod RSPB £4.40
Cysylltu ag archebu:
newport-wetlands@rspb.org.uk
01633 636363