Dau gyfle tendro cyffrous
Gwahoddiad i dendro ar gyfer dau broject treftadaeth gymunedol sy’n edrych ar dirweddau hanesyddol Gwastadeddau Gwent.
Dros yr wythnos nesaf, fe fydd Lefelau Byw yn rhyddhau dau dendr sy’n chwilio am wasanaethau gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes treftadaeth i gyflawni project treftadaeth gymunedol fawr, 'Adennill Tirweddau Hanesyddol Gwastadeddau Gwent'.
Mae'r tendr cyntaf yn chwilio am hanesydd i gyflwyno ymchwil hanesyddol arbenigol, yn ogystal â chefnogi grŵp o wirfoddolwyr, i edrych ar hanes Gwastadeddau Gwent trwy gofnodion Llys Carthffosydd Sir Fynwy. Mae'r cofnodion yn datgelu effaith llifogydd morol ac afonol, y dilyniant o dirddeiliaid, patrymau aneddiadau dynol, gwaith y llywodraeth leol a llawer, llawer mwy ar y Gwastadeddau. Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag archifau yn cyflwyno gwirfoddolwyr i ymchwil ddogfennol, gan ddysgu sgiliau dadansoddi data a thrawsgrifio iddynt. Bydd ffrwyth yr ymchwil yma yn cael ei arddangos mewn diwrnodau agored a sgyrsiau a chaiff eu trefnu fel rhan o raglen ddigwyddiadau ehangach y Lefelau Byw, yn ogystal ag ar-lein ac mewn cyhoeddiadau printiedig, a byddant yn llywio meysydd eraill rhaglen waith y Lefelau Byw. Mae manylion llawn y tendr hwn i'w gweld yma [hyperlink to the tender document] a chaiff y cyfle ei hysbysebu ar borth GwerthwchiGymru yma.
Mae'r ail dendr (a chaiff ei gyhoeddi ar 7fed o Ragfyr) yn chwilio am wasanaethau gweithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth sydd â phrofiad o redeg projectau archaeoleg cymunedol er mwyn helpu i gyflawni project gwirfoddol cysylltiedig â’r un uchod, sef ymchwilio i ddatblygiad tirluniau Gwastadeddau Gwent trwy edrych ar fapiau Comisiynwyr Carthffosydd o'r 1830au. Mae'r mapiau hyn wedi'u digido, eu cyfeirnodi a'u llwytho i System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) sydd bellach angen ei haddasu ar gyfer defnydd gwirfoddolwyr, i alluogi gwahanol fathau o ddadansoddi hanesyddol a chreu haenau lluosog o wybodaeth. Caiff hyn ei ategu gan arolygon maes a chloddiadau prawf archeolegol bychain a fydd yn cael eu trefnu mewn pentrefi hanesyddol. Rhaid defnyddio ystod o dechnegau ymchwilio gwahanol i ymchwilio, archwilio, cofnodi a dehongli nodweddion sydd wedi goroesi tirweddau hanesyddol a bywydau'r bobl sy'n byw yno.
Bydd y ddau broject cyffrous hyn yn cymell pobl leol, ac eraill sydd â diddordeb yn yr ardal, i ailddarganfod tirwedd hanesyddol sy'n bwysig yn genedlaethol a grëwyd, ac sydd wedi'i chynnal, gan weithredoedd pobl leol am o leiaf 1,000 o flynyddoedd. Wrth wneud hynny, byddant ill dau yn darparu cynnwys cyfoethog a fydd yn sail i greu deunyddiau dehongli newydd mewn cyfres o gyrchfannau i wella profiad yr ymwelwyr ar draws y Gwastadeddau yn ogystal â helpu i ailgysylltu pobl â'r dirwedd hanesyddol hon.
Cynlluniwyd y projectau yn wreiddiol gan ein ffrind a'r arbenigwr ar hanes ac archaeoleg Gwastadeddau, y diweddar Rick Turner OBE a fu farw, er mawr dristwch i ni gyd, yn gynharach eleni. Gobeithiwn eu cyflawni er cof amdano.
Dylai'r sawl sydd am gynnig am y naill gyfle neu'r llall gysylltu â Rheolwr Rhaglen Lefelau Byw, Alison Boyes alison.boyes@rspb.org.uk am ragor o wybodaeth.