Adennill, cyfoethogi a dathlu tirlun unigryw Gwastadeddau Gwent
Beth yw Lefelau Byw?
Cynllun Partneriaeth Tirlun a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yw Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw (PTLB), sydd wedi dod ynghyd i wireddu rhaglen waith i hyrwyddo ac ailgysylltu pobl a chymunedau i'w tirlun a darparu dyfodol cynaliadwy i'r ardal hanesyddol ac unigryw hon.
O fewn y wefan yma, gallwch ddarganfod sut bydd ein partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd a gyda'r gymuned am dros dair blynedd a hanner (o ddechrau 2018), a sut y gallwch gymryd rhan mewn un o'r prosiectau cyffrous sy'n digwydd o fewn y dirwedd ac o’i amgylch.
Darganfyddwch Lefelau gogoneddus Gwent trwy'r tymhorau: gwyliwch yr Hydref a'r Gaeaf.
Mae'r flwyddyn 2021 yn nodi can mlynedd ar hugain ers marwolaeth drasig Louisa Maud Evans.
Mae pobl wedi bod yn croesi Aber Hafren ers miloedd o flynyddoedd. Hyd nes datblygu ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi o safon, yn aml dyma'r ffordd gyflymaf o gludo pobl, anifeiliaid a nwyddau dros gryn bellter.
Yn 2019, ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd, gwelwyd adar y bwn yn bridio ar Wastadeddau Gwent unwaith eto.
Mae rheolaeth dŵr ar y Gwastadeddau yn dibynnu ar system ddraenio gymhleth sy'n ymestyn am dros 1500km, gyda rhai rhannau tua 2000 o flynyddoedd oed.
Mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (RATS) wedi bod yn gweithio'n ddyfal yn datgelu gwybodaeth archif anhygoel am Wastadeddau Gwent. Dyma’r gwirfoddolwr Cath Davis i ddatgelu popeth am nodwedd bwysig ar Wastadeddau Gwynllŵg.
Y tu hwnt i'r morglawdd mae anialwch gwlyb o forfeydd heli, fflatiau llaid a llethrau tywod, a dyfroedd anferth yr Aber Afon Hafren, sy’n llwythog o silt.
Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, i gofnodi ffiniau caeau, ffosydd draenio ac amddiffynfeydd môr.
Dros y degawdau diwethaf mae darganfyddiadau archeolegol anhygoel wedi eu canfod yng Ngwastadeddau Gwent wedi.
Yn 1993, gwnaeth archeolegwyr ddarganfyddiad rhyfeddol wrth weithio ar ddatblygiad canolfan storio i archfarchnad ar safle Fferm Barland, ger Magwyr.
Cafodd y dull traddodiadol yma o bysgota eogiaid trwy ddefnyddio rhwydi gafl ei gofnodi am y tro cyntaf ar Aber Hafren yn y 1700au, ond bron yn sicr yn bodoli cyn hyn.
Mae pysgota ‘putcher’ yn ddull traddodiadol o ddal eog a physgod eraill, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf y canoloesoedd, ac efallai cyn hynny.
Ar ddiwedd y 1920au roedd posibiliadau hedfan yn dechrau datblygu, ac roedd Caerdydd yn benderfynol o fod yn rhan o’r ras.
Ewch am dro ar y Gwastadeddau ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod ar draws un o'n pryfed harddaf, Gwas Neidr Flewog (Brachytron pratense).
‘Brinker’ yw hen air unigryw o’r ‘Levels lingo’ am berson sy'n berchen ar dir ar un ochr i ffos, clawdd neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw.
Mae Castell godidog Cil-y-Coed wedi bod yn sefyll a gwarchod y Gwastadeddau ers dros 800 mlynedd.
Mae safle picnic Y Garreg Ddu yn cynnig golygfeydd panoramig ysblennydd o Aber Afon Hafren a'r ddwy bont.
Crëwyd Morlynnoedd Allteuryn yn y 1990au hwyr ac maent yn ffurfio ochr ddwyreiniol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Yn 2002, yn ystod adeiladu Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd ar lan orllewinol Afon Wysg, darganfuwyd gweddillion llong o'r 15fed ganrif.
Gall mapiau ddatgelu llawer wrthym am hanes ein tirlun, os ydych chi'n deall sut i'w ‘darllen’.
Tua 1113, rhoddodd Arglwydd Normanaidd Caerllion, Robert de Chandos, dir yn Allteuryn i Abaty Bec, ger Rouen yn Ffrainc, a fyddai’n sylfaen i Briordy Benedictaidd Santes Mair Magdalen.
Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius, yw’r fwyaf o’i rhywogaeth ym Mhrydain yn ogystal â bod yn rhywogaeth gwlyptirol eiconig.
Mae Pont Gludo Casnewydd yn rhyfeddol, ac yn un o ddim ond chwech yn y byd o'i fath sy'n dal i weithredu o gyfanswm o ugain a gafwyd eu hadeiladu.
Mae’r ffilm fer ‘The Severn Estuary Through Time’ yn dangos sut mae'r Aber, ei fywyd gwyllt a'r bobl oedd yn byw gerllaw, wedi ffurfio’i gilydd dros filoedd o flynyddoedd.
Dychmygwch sefyll yn agos i’r morglawdd yn Allteuryn 10,000 mlynedd yn ôl. Beth fyddech chi'n ei weld?
Ar 30 Ionawr 1607, cafodd morgloddiau y naill ochr i Aber Afon Hafren eu boddi gan ddŵr llifogydd.
Yn 1531, pasiodd y brenin Harri VIII y Ddeddf Carthffosydd, gan greu Comisiynwyr a Llysoedd Carthffosydd i oruchwylio'r gwaith o reoli corstiroedd arfordirol, tir amaethyddol cynhyrchiol ond yn dueddol o gael llifogydd.
Cors Magwyr yw un o rannau olaf o gorstiroedd ar Wastadeddau Gwent, tirlun sydd wedi bodoli yma ers miloedd o flynyddoedd.
Digwyddiadau
Mae Bywyd ar y Lefelau yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol y tirlun unigryw hwn trwy gofnodi straeon pobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae ar y Gwastadeddau.
Archwiliwch y Bywyd ar y Lefelau archif hanes llafar…
Gwybodaeth ddiweddaraf
-
Ymunwch â 3 Grŵp Hanes Plwyf a fydd yn cyfarfod ar gyfer sgwrs am ddim gan Mr Peter Strong, ‘Tales of the Levels’.… https://t.co/TwzLgGl1So
-
Join the 3 Parish History Group as they meet for a free talk by Mr Peter Strong on the ‘Tales of the Levels’ Nash… https://t.co/fWecicKGca
-
Early riser? Why not join us to soak up the dawn chorus at Magor Marsh with naturalist @GmusicV as part of the… https://t.co/khLGob5mrO